01286 881568 | E-mail us - NB you will need to type in this address Home | Sitemap | SVP England & Wales

Am 'r canola...

Gwybodaeth am ein canolfan yn Eryri, yng Ngogledd Cymru

Mae Canolfan Ozanam wedi'i lleoli mewn ardal wledig hardd ym mhen dwyreiniol Dyffryn Nantlle, un o lecynnau cudd Eryri.

Mae'n gyfuniad o lety cyfoes â chymeriad hynod hen fferm fynyddig Gymreig. Mae adeilad gwreiddiol y fferm yn dyddio o tua 1800.

Yn 1979 prynwyd y safle gan Gymdeithas St Vincent de Paul (SVP Cymru a Lloegr), a rhoddwyd yr enw “Canolfan Ozanam” iddo ar ôl sylfaenydd yr elusen, Frederick Ozanam.

Nod y Gymdeithas yw mynd i'r afael â thlodi yn ei holl ffurfiau drwy gynnig cymorth ymarferol i bobl sydd mewn angen.

Rhan o'r gwaith hwn yw cynnig gwyliau i blant a theuluoedd difreintiedig. Bob blwyddyn mae tua 7 miliwn o bobl yn mynd heb wyliau, a hynny oherwydd tlodi.

Dyna pam y mae'r Gymdeithas yn dod â thros 1,150 o blant ac oedolion i Ganolfan Ozanam bob blwyddyn i gael y gwyliau gorau erioed.

Drwy aros yma, byddwch yn ein helpu ni i ddod â mwy a mwy o bobl ddifreintiedig i weld harddwch Eryri.

Cliciwch yma i archebu lle i'ch grwp nawr