01286 881568 | E-mail us - NB you will need to type in this address Home | Sitemap | SVP England & Wales

Gwybodaeth

Llety rhesymol ar gyfer grwpiau yng nghanol harddwch Eryri, yng Ngogledd Cymru

Canolfan Ozanam, ger Caernarfon yng Ngogledd Cymru yw'r lle perffaith i grwpiau aros er mwyn mwynhau ysblander Eryri a'r arfordir hardd.

Mae gan y ganolfan bum acer o dir, gan gynnwys llyn bychan, gwarchodfa natur a nant.

Rydym yn agos at gestyll, traethau, bywyd gwyllt a threnau stêm.

Mae Canolfan Ozanam, sy'n cael ei rhedeg gan elusen ryngwladol Cymdeithas St Vincent de Paul, yn cyfrannu ei holl refeniw er mwyn rhoi cyfle i bobl sydd heb lawer o fodd ymweld â'r ardal hardd hon.

Drwy archebu llety ar gyfer grwp yn y Ganolfan byddwch yn ein helpu i gynnig y gwyliau gorau erioed i bobl llai ffodus.

Mae digon o le yng Nghanolfan Ozanam ar gyfer hyd at 60 o bobl mewn ystafelloedd sy'n cynnwys dau, tri neu bedwar gwely. Felly dechreuwch drefnu taith ar gyfer eich clwb, gwahoddwch eich ffrindiau, a dewch i gael amser da at achos da.